Skip to main content

News

Adnoddau National Numeracy Day Cymraeg newydd sbon am y tro cyntaf erioed

3 May 2024

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Nod National Numeracy Day yw hyrwyddo ymdeimlad cadarnhaol yn y DU am fathemateg pob dydd, ac rydym ni am iddo fod mor hygyrch â phosib, ledled y wlad. Felly, am y tro cyntaf erioed, mae gennym ni gasgliad o adnoddau Cymraeg – ac mae popeth am ddim!

O Eryri i Abertawe, oedolion a phlant, rydym ni am helpu pawb i deimlo’n hyderus gyda rhifau fel y gallant lwyddo mewn bywyd.

Cofrestrwch i gymryd rhan a chael y diweddaraf

Rhagor o wybodaeth am National Numeracy Day

Image of resources with a speech bubble saying "Ymunwch â’r sgwrs"

I blant: Y gystadleuaeth Arwyr Rhifau

Mae cystadleuaeth Arwyr Rhifau National Numeracy Day bellach yn FYW ar gyfer 2024! Mae chwe bwndel o wobrau i ysgolion neu grwpiau ieuenctid eu hennill, y mae pob un gwerth £1,000. Mae gwobrau unigol hefyd i chwech o blant sy’n ennill ac 18 sy’n cyrraedd y rowndiau terfynol.

I gymryd rhan, mae angen i blant greu llun o sut y byddant yn defnyddio rhifau yn swydd eu breuddwydion neu yn eu hobïau. Efallai eu bod nhw am yrfa wych fel cerflunydd, perfformiwr stỳnts neu lawfeddyg? Neu a fyddai’n well ganddynt ddawnsio neu blymio yn y cefnforoedd dwfn?

Beth bynnag yw eu breuddwyd, rydym am weld a chlywed sut mae’n defnyddio rhifau! Gall plant o grwpiau ieuenctid, meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd a rhai sy’n derbyn addysg gartref oll gymryd rhan. Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant rhwng 3 ac 13 oed, yn ogystal â phlant a phobl ifanc sy’n derbyn cymorth AAA neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal, yn y DU yn unig.

Mae taflen waith Arwyr Rhifau ar gael yn Gymraeg, a hefyd mae adnodd fideo gydag isdeitlau i’w ddefnyddio yn y dosbarth.

Cofrestrwch i gymryd rhan yn y gystadleuaeth

Photo of Chloe, a competition winner from 2023

I oedolion a phlant: Y Big Number Natter

Y Big Number Natter yw’r sgwrs genedlaethol gyntaf erioed yn y DU am rifau. Mae gan bawb ei farn am fathemateg, ac mae rhannu profiadau’n gam cyntaf gwych tuag at fagu hyder gyda rhifau.

Bydd enwogion, dylanwadwyr, arbenigwyr a chyhoedd Prydain Fawr i gyd yn rhannu eu straeon am fathemateg. Boed yn dda, yn ddrwg neu’n ddoniol, mae gan bawb stori am rifau!

Gyda phosteri, sleidiau a thaflenni syniadau am weithgareddau yn Gymraeg, mae popeth fydd ei angen arnoch i sbarduno sgwrs am rifau, a’r cyfle i newid bywydau er gwell.

Cofrestrwch am fynediad

Thumbnail of poster in Welsh